Nawr ar agor yn Mermaid Buildings, Pentre Road, San Cler, SA33 4LR

main

Rydyn yn gwmni ffasiwn bychan wedi’i leoli yn Sanclêr, Sir Gaerfyrddin.

Rydyn ni yn Pethau Olyv yn stocio dewis eang o ddillad ffasiwn o ansawdd uchel mewn meintiau 8-22, gan ddetholiad o gyflenwyr gan gynnwys That’s Me, Femme, Robell, Frank Lyman, Goose Island, Bamboowardrobe, Saloos, Cream, Claudia C ac Peach accessories . Yn y siop gallwch weld yr ystod gyflawn sydd ar gael a trio arno cyn prynu.

I gyd-fynd â’r dillad, mae gennym ystod eang o ategolion, bagiau llaw, menig, hetiau, sgarffiau a gemwaith i gwblhau’ch gwisg.

Beth am alw i mewn a gweld ein dewis rhoddion a dewis cardiau sydd ar gael yn Gymraeg a Saesneg.

Yn olaf i gwblhau eich profiad rydym yn gwerthu te, coffi a chacen, hyn i gyd mewn awyrgylch cynnes a chyfeillgar gyda’n merched wrth law i gynnig unrhyw gymorth sydd ei angen.

Mae’r eitemau ar gael mewn rhai gwestyau. Rydym hefyd yn mynychu sioeau, ffeiriau crefft,  nosweithiau merched (h.y. sioeau ffasiwn), a digwyddiadau elusennol. Rydym yn darparu profiad unigryw i gwsmeriaid. Rydym hefyd yn croesawu grwpiau o ferched trwy drefniant ymlaen llaw i ddod i’r siop.  

Rydym yn cael y bagiau a’r eitemau eraill oddiwrth cwmnioedd o Brydain. Mae ein cwsmeriaid yn hoffi pethau gwahanol ac unigryw a dyna beth rydym yn ymdrechu ato.

Amdano ni

Olive
Olive
Yvonne
Yvonne

Dechreuodd Olive a Yvonne y busnes yn 2012. Ni wedi bod yn ffrindiau oddi ar 1978. Gwnaethom gyfarfod pan yn gweithio yn Ysbyty Dewi Sant, Caerfyrddin. Rydym wedi ymddeol fel nyrs seiciatrig. Mae Olive dal I fyw yn Trelech, Caerfyrddin ac Yvonne yn byw yn Caerfyrddin.

Olive and Yvonne
Perchnogion busnes, Olive and Yvonne